Dydd Sul 17 Mai, 2026 10.30 y.b
Ar lan yr afon – Tocynnau: £12
Mae’r daith gerdded olygfaol – trwy dolydd ac ar hyd llwybrau coed – yn dilyn darn o Lwybr Llechi Eryri o Fetws y coed i Gapel Curig. I gychwyn ni fyddwn ni byth ymhell o Afon Llugwy a’i rhaeadrau, yn cynnwys y Rhaeadr Ewynnol. Wrth agosau at Gapel Curig mi gawn ni olygfeydd gwych dros y mynyddoedd.
Bydd y daith yn gorffen yn Plas y Brenin, lle bydd ‘na gyfle am banad neu beint cyn i’r minibws fynd â ni’n ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6½ milltir / 11 km
Gradd: Hawdd / cymedrol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Bws mini i’n man cychwyn ac yn ôl.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mat Hancox a Matthew Driver
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
