Dydd Sadwrn 16eg Mai, 2020
Darganfod Dolgarrog (ei hanes a’i hanes naturiol)
Mae Dolgarrog yn bentref bach ar ochr gorllewinol Dyffryn Conwy, 3 milltir i’r gogledd o Drefriw. Ar y llethrau uwch ei ben mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog.
Mae’r pentref presennol a’i dai yn ganlyniad i lawer o waith adeiladu a wnaed ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Bu hyn yn defnyddio’r dŵr ym mynyddoedd y Carneddau er mwyn pweru’r ffatri alwminiwm yn y pentref.
Byddwn ni’n cerdded o’r pentref, i fyny drwy’r warchodfa natur er mwyn archwilio hanes diwydiannol a chyn-ddiwydiannol yr ardal. Ar y ffordd byddwn ni’n ymweld â’r rhaeadrau fu unwaith yn enwog, aneddiadau gwag, cynefinoedd planhigion prin, a cheir golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy a mynyddoedd y Carneddau.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6 milltir / 10 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 10:30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Pete Kay a Tomos Jones
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.