Dydd Sadwrn 16eg Mai, 2020
Creadigaethau Natur – i deuluoedd
Mae’r daith hamddenol, leol hon ar gyfer teuluoedd, a’r arweinydd fydd yr arlunydd Tim Pugh (gweler ei wefan yma) a fydd yn ein helpu i greu gwaith celf dros dro wedi’i ysbrydoli gan y byd naturiol, gan ddefnyddio deunydd (fel priciau, dail a moch coed) a gasglir ar ein daith gerdded yn Nyffryn Crafnant. Dewch â chamera er mwyn recordio eich campwaith!
Hyd: Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 3 milltir / 5 km
Gradd: Hawdd a hamddenol
Cyfarfod: 11:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tim Pugh a Cate Bolsover
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.