Contents
Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Côr y bore bach
Mwynhewch gôr y bore bach o gwmpas ymylon Coedwig Gwydir efo gwylwyr adar lleol. Bydd y daith yn cynnwys coetir a thorlan, a byddwch yn dysgu sut i adnabod adar wrth eu cân. Cyflymdra hamddenol, ond bydd rhai rhannau byr yn garw ac yn serth, ac efallai bydd hi’n wlyb dan draed mewn mannau. Gwisgwch esgidiau cerdded addas, a basai binocwlars yn ddefnyddiol.
Ar ôl y daith bydd diod boeth a chacen yn ein disgwyl yn neuadd y pentref, a byddwn yn ôl mewn digon o amser i chi fynychu taith gerdded arall, os hoffech chi!
Hyd: 2.5 awr
Pellter: Tua 3 milltir / 5 km
Gradd: Hawdd/cymedrol, a hamddenol
Cyfarfod: 6:15 y.b. (h.y. yn gynnar!) ym mhrif maes parcio Trefriw (LL27 0JH, SH781631) (gyferbyn â’r Felin Ŵlan). SYLWER nad ydy’r daith hon yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref.
Arweinyddion: Joan Prime ac Alan Young
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.