Contents
Dydd Sadwrn 16eg Mai, 2018
Y Ffordd Olygfaol Adra
Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus (bws), i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy.
Byddwn yn cerdded i fyny trwy geunant Aberllyn, cyn cyrraedd Llyn Parc a cherdded ar hyd ei lannau. Byddwn wedyn yn disgyn i Hafna, cyn pasio rhai o’r llynnoedd hyfryta yn y goedwig. Mae hon yn daith odidog – ar gyflymdra hamddenol – a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri. (Toiledau wrth Lyn Geirionydd.)
Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o draciau coedwig eang a llwybrau eraill.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: About 8 miles / 13 km
Gradd: Cymedrol, efo cwpl o ddarnau serth
Cyfarfod : 10:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus i Fetws-y-coed
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws (£3.50), oni bai bod gynnoch chi bas.)
Arweinwyr : Karen Martindale a Jan Blaszkiewicz
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.