Contents
Dydd Gwener 15fed Mai, 2020
Cylchdaith Cowlyd
Mae Llyn Cowlyd yng ngodreuon y Carneddau y tu ôl i Drefriw, ac mae’n cyflenwi dŵr i Ddyffryn Conwy a rhai o’r trefi ar yr arfordir. Byddwn ni’n cerdded o gwmpas y llyn ar lefel uchel.
Byddwn ni’n teithio yn y bws mini i Gwm Cowlyd, i ben gogledd y llyn, ac o fana byddwn ni’n cerdded i fyny Pen Llithrig y Wrach (2621′ / 799m) sy ar ei ochr gogledd-orllewinol (yn y llun), i ddisgyn i ben arall y llyn. O fa’ma byddwn yn esgyn Creigiau Gleision (2224′ / 678m) (o le y tynnwyd y llun) cyn disgyn i Ddyffryn Crafnant, a dychwelyd i Drefriw ar gerdded. Os bydd y gwelededd yn dda, bydd y golygfeydd o’r mynyddoedd o’n cwmpas yn wych.
Mae’r ardal hon yn anghysbell, mae un rhan yn wlyb dan draed, ac mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau addas, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig. (Efallai y basai gaiters yn syniad da mewn mannau.)
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 9 milltir / 14.5 km
Gradd: Llafurus, mynydd
Addasrwydd: Cerddwyr heini a phrofiadol
Cyfarfod: 8:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tony Ellis (awdur lleol) and Paul Newell
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.