Dydd Gwener 15fed Mai, 2020
Cerdded a Chyfarth! – taith gerdded i gŵn
Fel arfer dan ni ddim yn medru caniatau i gŵn ddod ar ein teithiau cerdded, am nifer o resymau, ond eleni byddwn ni’n trefnu taith gerdded yn unswydd i gerddwyr efo’u cŵn!
Fel arfer byddwn hi’n cyfarfod a chofrestru yn Nhrefriw, ond ar gyfer y daith hon mi fyddwn ni’n cyfarfod ym Mainc Lifio (‘Sawbench’) – y maes parcio ar gyfer trwyddau beics Gwydir Mawr a Bach – sydd ar ymyl Coedwig Gwydir a dim ond 5 munud o Drefriw mewn car (gweler y lleoliad efo cyfeiriadau o Drefriw yma).
O fa’na, byddwn ni’n cerdded ar lwybrau da yn y goedwig lle na fydd ‘na ddefaid nac adar yn nythu ar y ddaear.
Sylwer: Hoffen ni i chi gadw eich cŵn ar dennyn.
Hyd: Tua 2 awr.
Pellter: Tua 4 milltir / 6.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol
Cyfarfod: 1:45 p.m. at Maes Parcio Mainc Lifio (Sawbench) (SH790 609) ger Castell Gwydir (wedi’i farcio ar y map fel ‘Gwydir Mawr/Bach’, gan mai dyma’r maes parcio ar gyfer y Trywyddau Beics). SYLWER nad ydy’r daith hon yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref.
Arweinwyr: Jan Blaskiewicz (efo Indie, ei chi) a Karen Martindale
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod. Sylwer bod llefydd yn gyfyngedig i 10 o bobl.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.