Bristly Ridge a’r Glyderau

Dydd Gwener 15fed Mai, 2020

Bristly Ridge a’r Glyderau

Byddwn yn teithio i Ganolfan Groeso Dyfryn Ogwen yn y bws mini, o le y cerddwn i fyny i Fwlch Tryfan i gychwyn esgyniad Bristly Ridge hyd at y Glyderau. Mae hyn yn sgrialfa gradd 1 hir efo mannau agored, ond â digon o leoedd i ymafael. (Gweler y grib yn y llun uchod.) Wedi cyrraedd y copa, byddwn yn archwilio Glyder Fach (994 m / 3,261 ft), gan gynnwys y Cantilever a Chastell y Gwynt, ac yna cerdded drosodd i Glyder Fawr (1,001 m  / 3,284 ft), cyn disgyn – trwy’r Twll Du, os bydd y cyflyrau’n caniatau – i Lyn Idwal ac Ogwen er mwyn dal y bws mini yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 10 km

Gradd:  Llafurus, mynydd, ac adran hir o sgrialu gradd 1. Cofiwch y bydd hi’n llawer oerach ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr fod gennych ddillad cynnes, gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig, ac esgidiau addas, cryf (dim trênars).

Addasrwydd: Cerddwyr heini a phrofiadol. Rhaid i bawb fod wedi ymdopi â thir garw, a threulio dyddiau hir yn y mynyddoedd

Cyfarfod:  8:45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Rob Collister (awdur ‘Days to Remember’) ac Idris Bowen  (Darllenwch gyfweliad efo Rob yma.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.   Sylwer bod llefydd yn gyfyngedig i 8 o bobl.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig