Betws i Drefriw – dychwelyd drwy’r coetir

Dydd Sul 17 Mai, 2026    09.15 y.b.         Tocynnau: £12

Ar ôl cael ein gollwng gan y bws mini ger pont boblogaidd Pont y Pair ym Metws-y-Coed, byddwn yn dilyn Afon Llugwy i fyny’r afon ar draws dolydd agored i gyfeiriad Pont y Glowyr. Mae darn byr a thawel o ffordd wedyn yn arwain at olygfan uwchben Rhaeadr y Wennol, gan gynnig cyfle gwych i aros a mwynhau’r olygfa.

Byddwn yn parhau drwy ymlwybro uwchben Tŷ Hyll, gan fwynhau golygfeydd ar draws dyffryn yr afon a thuag at Foel Siabod, cyn dringo ar hyd traciau fforest i gyfeiriad Llyn Bychan — man delfrydol i aros am ginio. O fan hyn, byddwn yn disgyn tuag at Lyn Geirionydd, lle mae toiledau cyhoeddus ar gael, ac yn gorffen y daith ar lwybr hardd sy’n disgyn trwy goetir bedw a derw, gan ddychwelyd i bentref Trefriw.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd: Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  09:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)  Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Cludiant:   Bws mini i Fetws y coed

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr: Terry Smith a Steve Jewett

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig