Contents
Dydd Gwener 15fed Mai, 2020
‘Parc Life’
Byddwn ni’n cychwyn trwy ddal ein bws mini am daith 5 munud i faes parcio’r Fainc Lifio, ger Castell Gwydir, cyn dilyn y llwybr sy’n edrych dros Ddyffryn Conwy i fyny i Lyn Parc. O fa’na byddwn yn cerdded yn ôl i Drefriw trwy rai o’r rhannau mwya hyfryd yng Nghoedwig Gwydir. Disgwylwch lwybrau hawddgar a golygfeydd da.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 8.5 milltir / 13.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol
Cyfarfod: 10:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Colin Devine a Clive Noble
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.