Contents
Dydd Gwener 15fed Mai, 2020
Y Ddaear dan eich Traed
Byddwn ni’n dilyn llwybr hamddenol o Drefriw yn Nyffryn Conwy, trwy Ddyffryn Crafnant at y llyn o’r un enw. Wedi gadael y llethrau coediog ac esgyn i’r col, mae’r tirwedd yn newid yn hollol – dyma rannau uchaf Dyffryn Ogwen. Does dim coed, ac ar y rhostir mae’n hollol bosib y gwelwn ni adar ysglyfaethus yn ogystal â blodau’r gwanwyn. Yn yr ardal hon mae teimlad o fod yn anghysbell ac yn y mynyddoedd heb orfod gwneud yr ymdrech o fynd yn uchel! Byddwn yn disgyn i Gaffi Siabod yng Nghapel Curig, lle bydd ‘na gyfle am banad a chacen tra’n aros am y bws mini yn ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6.5 milltir / 10 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 9:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Jim Langley (o Nature’s Work) a Gill Scheltinga
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.