Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026 09.45 y.b.
Marchogion a banditiaid Tocynnau: £12
Ymunwch â ni ar daith o bentref tawel Ysbyty Ifan i ucheldirodd gwyllt Bwlch y Pentre, gan orffen yn Rhydlydan lle cawn ni ddiod yn nhafarn Y Giler Arms.
Ers amser maith, bu Ysbyty Ifan yn noddfa, lle roedd Marchogion Sant Ioan yn gofalu am bererinion blinedig a oedd yn croesi’r bryniau anghysbell. Mewn canrifoedd diweddarach, daeth y pentref yn hafan i wrthryfelwyr ac alltudion.
Wrth i ni ddringo trwy gorsdir a thir fferm tawel ar hyd hen ffyrdd y porthmyn, mae’n hawdd dychmygu Gwylliaid Cochion Mawddwy yn llechu ymhlith y creigiau a’r grug fry.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 filltir / 11 km
Gradd: Cymedrol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 09:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded, wedyn ar ddiwedd y daith dal y bws mini yn ôl i’n ceir.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Kate Reeves a Marianne Siddorn
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

