Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Cynffon y Gaseg Las
Ymunwch â ni am daith leol o’r pentref. Byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las, sydd yn rhaeadr odidog ar ochrau Coedwig Gwydir. Mae’r rhaeadr yn cyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, ac Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw i’r rhaeadr. Byddwn wedyn yn mynd heibio i Gwydir cyn dychwelyd i Drefriw ar lan yr afon. (Gyda llaw, ‘Rhaeadr y Parc Mawr’ ydy enw Cymraeg swyddogol y rhaeadr, achos mae’n llifo o fwynglawdd Parc!)
Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6 milltir / 9.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 10:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinwyr: Clive Noble a Jo Noble
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.