Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Doethineb Blodau Gwyllt
Dros amser mae planhigion wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o frwydro yn erbyn peryg a heintiau. Dysgodd ein cyndadau sut i ddefnyddio hyn ymhell cyn y darganfuwyd antibiotigion. Ar y daith hon cewch wybod sut roedd y planhigion sydd yn tyfu yn Nyffryn Crafnant yn hollbwysig i genedlaethau o bentrefwyr yn eu bywydau pob dydd. Dyma hefyd gyfle i ddysgu mwy am hanes y pentref.
Mae hon yn daith hamddenol trwy’r coedydd a dolydd sydd yn enwog am glychau’r gog a blodau gwanwynol eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar lwybrau da neu drwy gaeau. (Mae ‘na un gamfa.)
Hyd: Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr yn y bore. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 4 milltir / 6.5 km
Gradd: Hawdd, ac yn hamddenol
Cyfarfod: 11:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
(Bydd hyn yn gyfleus i bobl sydd am ddod i Drefriw ar y bws.)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinwyr: Joan Prime a Karen Black
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.