Dydd Sul 17 Mai, 2026 08:15 y.b.
Stumio yn Stwlan
Mae’r Moelwynion yn llawer distawach a mwy anghysbell na llawer o lefydd yn Eryri, ond mae’n ardal odidog. Byddwn yn cerdded rownd Moel yr Hydd a dilyn llwybr hardd y tu ôl i Lyn Stwlan. Byddwn hefyd yn crwydro trwy hen chwareli llechi, mynd heibio i Lyn Cwmorthin a Llyn Stwlan, ac yn y pellter gwelwn ni bwerdy Trawsfynydd – y Brydferth a’r Bwystfil, efallai.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Cymedrol / llafurus
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 8:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw i’r man cychwyn.
Cofiwch gofrestru yn neuadd y pentre gyntaf.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Charlotte Evans a Simona Bacanu
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
