Dydd Gwener 19eg Mai, 2017
Blodau’r Gwanwyn yn Nhŷ Hyll, ger Capel Curig
Fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas Eryri, rydym wedi ymuno â nhw i gyflwyno’r daith gerdded hon:
Taith gerdded hamddenol o gwmpas yr ardd a choed ar diroedd Tŷ Hyll, efo cyfle i glywed am hanes a chwedlau’r adeilad rhyfeddol hwn, ar y cyd â’r planhigion sydd i’w gweld yma, gan gynnwys rôl bwysig Cymdeithas Eryri mewn sicrhau ei ddyfodol fel lle i arddangos planhigion i beillwyr (pollinators), ac ar gyfer gweithgareddau addysgol a cadwraeth eraill.
Hyd: Tua 3 awr, gan gynnwys amser rhydd i fwynhau’r ardd, neu i brynu te a chacen!
Pellter: 1.5 km / 1 filltir
Gradd: Hawdd
Cyfarfod: 1.00 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal bws mini i Dŷ Hyll ac yn ôl.
Arweinyddion: Margaret Thomas, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri
a Joan Prime, Arweinydd Teithiau Cerdded efoCliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.