Wrth baratoi at Ŵyl Gerdded, mae ‘na lawer o waith sydd yn mynd ymlaen yn y cefndir, fel y gwelwch chi yma:
Bu rhaid i’n hysgrifenyddes ysgrifennu ugeiniau o lythyrau, ond mae hi’n mwynhau ei gwaith.
Dan ni wedi bod yn brysur yn cysylltu â phobl ar ein system ffôn newydd.
Mae ein Webmaster wedi treulio oriau ar ei gyfrifiadur 100MB newydd.
Mae’n rhaid i arweinwyr ein teithiau cerdded ymarfer ei sgiliau mordwyo.
… ac mae rhai o’r tîm wedi bod ar gwrs gloywi darllen mapiau.
Mae’n bwysig cadw sgiliau Cymorth Cyntaf yn gyfoes.
Mae archwilio llwybrau newydd yn dasg bwysig bob blwyddyn …
… ac mae’r tîm cyfeirbwyntio wedi bod yn gwirio bod pob dim yn iawn.
Mae ein gyrrwr bws mini wedi bod ar gwrs intensif i ddiweddaru ei sgiliau.
Mae gan ffotograffydd yr Ŵyl ddau rolyn newydd o ffilm, ac mae o’n ysu am gael fynd allan i dynnu lluniau o’n cerddwyr hapus.
Mae ein hadran Cyfryngau Cymdeithasol wrthi trwy’r flwyddyn.
Mae paratoadau at luniaeth yn gorfod cychwyn yn gynnar.
Mae glanhawyr Neuadd y Pentref wedi cael offer newydd eleni!
Ac mae llawr o de wedi ein cadw ni i fynd …..
O! ac yn ola’, mae ein Cadeirydd uchel ei pharch wedi cael tatŵ “I love TWF”.