Diogelu Data

Ein Polisi Diogelu Data

Mae’r canlynol yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (2018).

Mae ein gwefan (www.trefriwwalkingfestival.co.uk) yn safle diogel (https://) sydd â thystysgrif SSL gyfoes.

Byddwn yn defnyddio ‘Eventbrite’ i gymryd archebion ar-lein ar gyfer Gŵyl Gerdded Trefriw, a bydd hyn yn gofyn am ddata personol.
Mae Eventbrite yn wefan ddiogel wedi’i diogelu â chyfrinair; cewch ddarllen polisi diogelu data Eventbrite yma (yn Saesneg): www.eventbrite.co.uk/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-privacy-policy

Pan fyddwn yn gofyn i’n cerddwyr archebu ar Eventbrite, am ychydig iawn o ddata byddwn yn gofyn, sef –
enw (bydd angen arnon ni fod yn gwybod pwy fydd yn mynychu)
tref/ddinas (sydd yn helpu efo cynllunio a marchnata)

Ar ddiwrnod y daith gerdded, bydd mynychwyr yn llofnodi i mewn ar ein ffurflen gofrestru. Ar hon bydd enwau (wedi’i hel o wybodaeth archebu Eventbrite).
Hefyd, byddwn yn gofyn am:
rhif ffôn argyfwng (rhag ofn bydd digwyddiad, damwain neu argyfwng ar y daith)
gwybodaeth feddygol berthnasol (bydd angen ar yr arweinyddion wybod am hyn)

Eir y ffurflen hon gan arweinydd y daith, ac ar ôl y daith fe’i rhoir yn ôl i Admin.

Pan fydd cerddwyr yn cofrestru, byddwn hefyd yn gofyn a hoffent i ni gysylltu â nhw y flwyddyn ganlynol ynglŷn â’r Ŵyl Gerdded nesaf. Dim ond os cawn ganiatâd byddwn yn defnyddio eu cyfeiriad ebost (a delir gan Eventbrite) i’r diben hwn.

Yr unig gofnodion personol a gedwir gennym ar ôl yr Ŵyl Gerdded fydd y ffurflenni cofrestru (dyma’r unig gofnod manwl o fynychwyr, gan ei bod hi’n cynnwys y newidiadau munud olaf). Cedwir hefyd manylion archebu Eventbrite nes y dileir y digwyddiad hwnnw.

Cedwir y cofnodion uchod am flwyddyn am resymau diogelu. Ni fyddai yn ddoeth eu dileu yn rhy fuan, rhag ofn y byddwn yn digwydd clywed am ryw ddigwyddiad a ddigwyddodd, lle mae angen arnom archwilio i’r mater; unwaith bydd y cofnodion wedi’u dileu, ni fydd unrhyw ffordd o gwbl o ganfod pwy fuodd ar y daith honno, na dim ffordd chwaith o gysylltu â nhw.

Byddwn yn cymryd Diogelu Data o ddifrif. Ni fyddwn yn rhannu data a ddelir gynnym, na data fydd ar gael i ni trwy Eventbrite, â neb.

Yn ogystal â mynychwyr, ni fyddwn yn gwneud data personol ein harweinyddion, pwyllgor na gwirfoddolwyr ar gael i neb o gwbl.

Defnyddir ‘cwcis’ ar ein gwefan dim ond i gofio ym mha iaith (Cymraeg neu Saesneg) y gwelwyd hi ddiwetha.

Os hoffwch drafod ein Polisi Diogelu Data, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Yn ôl i’r brig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Loading

22 o deithiau cerdded! Rhywbeth i bawb!