Merched – bydd gynnon ni bedwar rycsac i ferched, ar gael am ddim, yn ystod yr Ŵyl Gerdded.
Sachau Terra Peak Slipstream 12 (14 litr, 575g) fyddan nhw, sef sachau-dydd ysgafn sydd yn ddelfrydol i ferched .
Os hoffech chi archebu un, ebostiwch ni rŵan, gan roi eich enw ac ar ba ddiwrnod/ddyddiau byddwch chi isio’r rycsac. Y cyntaf i’r felin …
(Mi fyddwch chi’n deall y bydd rhaid i ni ofyn am flaendal o £10 ar y dydd, ac mi gewch chi hwnnw yn ôl wedi’r daith.)