Bob blwyddyn fel arfer byddwn ni’n cynnig tua 20 o deithiau cerdded yn ein Gŵyl Gerdded dri-diwrnod.
Bydd llawer o’r teithiau yn cychwyn ac yn gorffen yn Nhrefriw ei hun, a dydy dod o hyd i deithiau gwych ar stepan ein drws ddim yn anodd oherwydd lleoliad golygfaol y pentref yn Nyffryn Conwy, ar ymyl Parc Cenedlaethol Cymru.
Ac os ydach chi’n nabod Trefriw, byddwch chi’n ymwybodol nad oes llawer o dir gwastad o gwmpas – oni bai am lannau’r afon! Ond mae cerddwyr yn mwynhau bryniau … ‘tydyn?
Fel arfer bob blwyddyn byddwn ni’n hurio bws-mini. Mae hyn yn golygu bod modd mynd â cherddwyr tipyn ymhellach i gychwyn ar daith gerdded, neu i’w codi ar ddiwedd y dydd.
Ac weithiau byddwn ni’n rhannu ceir, neu dal bws cyhoeddus er mwyn mynd â cherddwyr i’w man cychwyn.