Chwedlau!

Be’ ydy hyn am chwedlau felly?

Mae’n debyg bod chi’n gwybod mai 2017 ydy Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru, ac oherwydd hynny bydd rhai o’n teithiau cerdded eleni yn adlewyrchu’r thema hon.

Mae Trefriw a Dyffryn Conwy yn ardal llawn chwedlau, storïau dychmygion a llên gwerin, ac er mwyn dathlu hyn, rydym wedi cynhyrchu llyfr newydd, sydd yn cynnwys pob dim!

 

legends book cover

 

 Lansir’r llyfr yn yr Ŵyl Gerdded, a bydd o ar gael i’w brynu.

Y pris fydd £6.50 (y pris arferol fydd £7.50).

(292 o dudalennau)

(Ar ôl yr Ŵyl, bydd y llyfr ar gael o Swyddfa Bost Trefriw, neu ar-lein o www.lulu.com – chwiliwch am ‘Trefriw Legends’)

 

 

 

legends Trail cover

 

Hefyd rydym wedi creu trywdd newydd (9 milltir) o’r enw Trywydd y Chwedlau. Lansir hwn ar ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl Gerdded. Mae ‘na lyfryn 8-tudalen sydd yn cynnwys map, cyfeiriadau llawn, a llawer o bytiau o wybodaeth am chwedlau. A medrech chi fod ymysg y bobl gyntaf i gerdded y trywydd!

Isio cipolwg cynnar? Gellir lawrlwytho Trywydd y Chwedlau fel .pdf yma.  (Mae hon yn fersiwn Saesneg, ond bydd y Trywydd ar gael hefyd yn Gymraeg.)

 

 

 

quiz logoAc yn olaf, yn ystod yr Ŵyl Gerdded bydd Cwis Chwedlau yn rhedeg, efo 25 o gwestiynau i ymwneud â chwedlau. Rhowch gynnig arni – mae’n rhad ac am ddim! Bydd y taflenni cwis ar gael bob dydd, a chyhoeddir yr enillydd yn ystod y Ffair Gacennau ar y dydd Sul. Y wobr fydd copi o’r llyfr newydd.

20 o deithiau cerdded! Rhywbeth i bawb!