Yn ei degfed flwyddyn mae Gŵyl Gerdded Trefriw erbyn hyn, ac mae’n dal i dyfu – gŵyl gerdded fwyaf poblogaidd Eryri yw hi!
Cychwynnwyd yr Ŵyl yn 2013 gan Gill Scheltinga (sydd yn Gadeirydd arnom hyd heddiw), a fe’i rhedwyd am y ddwy flynedd gyntaf gyda chymorth Cerdded Conwy Walks.
Ers 2015 Pwyllgor Gŵyl Gerdded annibynnol sy wedi rhedeg yr Ŵyl; ar hyn o bryd mae pob aelod yn byw yn Nhrefriw ei hun. Yn ogystal â dyfeisio teithiau cerdded a chael gafael ar arweinyddion a chynorthwywyr eraill, mae’r gwirfoddolwyr brwdfrydig hyn yn gwneud pob dim – o farchnata a hysbysrwydd, codi pres a chynnal y wefan, i ddelio ag yswiriant ac asesu risgiau, ac ati.
Buom wrth ein boddau yn Hydref 2014 pan enillodd Trefriw statws Croeso i Gerddwyr – mae hwn yn anrhydedd sydd yn cael ei roi i drefi a phentrefi “sydd â rhywbeth i’w gynnig i gerddwyr”. (Trefriw yw’r unig bentref ym Mharc Cenedlaethol Eryri sydd â’r fath statws.) Bob blwyddyn mae’n rhaid i ni wneud cais am gadr’r statws hwn, felly mae’n ein cadw ar flaenau ein traed!
Mae amcanion lleoliadau Croeso i Gerddwyr yn cynnwys:
– i fod yn lle deniadol i gerddwyr, gyda gwybodaeth o safon ar deithiau cerdded lleol
– i gynnig cyfleoedd cerdded ardderchog o fewn yr ardal i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd
– i sicrhau bod y cyfleusterau i gerddwyr yn cael eu cynnig a chadw, eu gwella, a’u marcio
Bu Pwyllgor yr Ŵyl Gerdded yn manteisio ar y statws hwn, ac o ganlyniad mi redir yr Ŵyl Gerdded o dan faner Croeso i Gerddwyr, ac mae’n dal i fod yn ddigwyddiad pwysicaf ein blwyddyn.
Yn aml iawn bydd pobl yn deud bod yr Ŵyl Gerdded yn gwella bob blwyddyn, ac ym mis Mehefin 2018 cafodd Gill Scheltinga, ein Cadeirydd a sefydlwraig, yr anhrydedd o ‘Gwirfoddolwr y Mis‘ gan y Bartneriaeth Awyr Agored. Gellir darllen mwy am hyn ar eu gwefan.
(below) Y plac a roddwyd i Gill
Wedyn, ym Medi 2018, yn Noson Wobrwyo Flynyddol y Bartneriaeth Awyr Agored, cafodd Gill ei henwebu fel eu ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn‘.
(below) Gill yn derbyn ei gwobr ym Mhlas y Brenin
Rydym bob tro yn gwerthfawrogi’r adborth da y byddwn ni’n ei gael, ond yn Nhachwedd 2018 cawsom ein syfrdanu ar ôl cael ein dewis fel ‘Digwyddiad y Flwyddyn, 2018’ yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno. Noddwyd y wobr hon gan Gist Gymunedol Chwaraeon Cymru, ac roedd nodd ganddynt wedi ein galluogi i hyfforddi mwy o arweinwyr (yn enwedig mewn cymorth cyntaf), i gael mwy o becynnau cymorth cyntaf, ac i brynu cyfarpar i wneud ein Gŵyl Gerdded yn fwy cynhwysol.
Mae’r digwyddiad ar gael i’w wylio yma ar YouTube. (Ni oedd yr olaf o 12 gwobr, felly mae’n cychwyn ar ôl 1 awr 37 munud.)
(isod) Pump o’r tîm – Tony, Cate, Gill, Kim ac Idris – yn derbyn y wobr ar ran yr holl dîm.
(isod) Y tlws ar gyfer ‘Digwyddiad Chwaraeon y Flwyddyn, 2018’ a enillwyd gan Ŵyl Gerdded Trefriw.
Menter ddim-am-elw yw Gŵyl Gerdded Trefriw. Fodd bynnag, mae rhedeg digwyddiad fel hyn yn ddrud, a chynhelir ein prif weithgareddau codi pres yn ystod yr Ŵyl Gerdded ei hun, sef gofyn am roddion i sicrhau dyfodol yr Ŵyl Gerdded y flwyddyn ganlynol.
Byddwn yn rheoli a hysbysebu Trywyddau Trefriw – set o 8 taith gerdded yn ardal Trefriw, ac yn 2017 sefydlon ni Drywydd Chwedlau newydd fel rhan o Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. Yn y gorffennol dan ni wedi trefnu Ras Pedol Crafnant, sydd wedi ei hadfywio ar ôl blynyddoedd maith, ar y cyd â Chymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gerddwyr sydd yn cefnogi’r Ŵyl Gerdded mewn ffordd mor hael, i arweinwyr ein teithiau cerdded, ac i eraill sydd yn fodlon gwirfoddoli i ni, ac i bob un cynorthwywr a noddwr.