Neuadd y Pentref ydy’r man ymgynnull/cofrestru ar gyfer pob taith gerdded (oni bai y dywedir fel arall).
Dim ond 150 llall ar hyd y Stryd Fawr o’r prif maes parcio ydy hi, a gyferbyn â’r Swyddfa Bost.
Mae ‘na doiledau yn y Neuadd.
Wrth ddefnyddio ffôn symudol, efallai na chewch chi signal da yn y Neuadd ei hun, ond mi ddylai fod ‘na un 4G y tu allan.
Bydd te a choffi, efo bisgedi a chacen, ar gael cyn ac ar ôl y teithiau cerdded, os hoffech chi banad.
(I ddod o hyd i Neuadd y Pentref ar y map, ewch i Lle dan ni?)
D.S. Mae diffibriliwr yn ymyl mynedfa’r Neuadd. (Mae 3 yn y pentref i gyd.)