Archebwch yn gynnar a pheidiwch â cholli allan!
Mae Gŵyl Gerdded Trefriw yn ddigwyddiad poblogaidd, a bob blwyddyn mae rhai teithiau cerdded yn llenwi’n gyflym iawn.
Bydd archebion ar gyfer yr Ŵyl yn agor ar-lein ar 15fed Mawrth bob blwyddyn, ac er nad oes modd archebu cyn hyn, mae’n talu i fod yn barod amdani.
Mae gynnon ni restr bostio, ac os ydach chi wedi mynychu’r ŵyl yn ddiweddar, byddwn ni wedi gofyn i chi a hoffech chi fod ar y rhestr honno.
Er bod ni’n dosbarthu ‘ffleiars‘ a phosteri, bydd y bobl ar ein rhestr bostio yn cael neges ryw 10 diwrnod cyn i’r archebu fynd yn fyw, fel bydd ‘na gyfle i edrych trwy’r teithiau cerdded a bod yn barod i archebu llefydd cyn gynted â bydd archebu yn agor (ac mae dros 100 o lefydd yn mynd ar y diwrnod cyntaf, fel arfer).
Os nad ydach chi’n meddwl eich bod ar ein rhestr bostio, ond mi hoffech chi fod, ebostiwch ni:
contact.trefriwwalkingfestival@gmail.com, gan ofyn i ni ychwanegu eich cyfeiriad ebost at y rhestr. (Ac mi wnawn ni gadarnhau ein bod ni wedi gwneud hynny.)