Dydd Gwener 16 Mai, 2025
Tryfan
Mae Crib Ogleddol Tryfan yn sgrambl gradd 1 eiconig, ac mae’n boblogaidd iawn.
Mae’n un o’r copeuon dros 3,000 troedfedd, ac mae’n sefyll yn browd yn Nyffryn Ogwen.
Byddwn yn sgramblo o’r ffordd – gan gerdded yn ôl traed George Mallory a Sir Edmond Hilary i’r copa, lle mae Siôn a Siân, y ddau faen hir.
Byddwn yn cychwyn yn gynnar er mwyn osgoi’r torfeydd, gan ddychwelyd heibio’r Copa Deheuol a Llyn Bochlwyd.
Bydd darnau serth, creigiog ac agored. Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini am y daith hon.
Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 3 milltir / 4.5km Esgyniad 610m
Gradd: Anodd, llafurus, efo darn hir o sgramblo gradd 1. Agored mewn mannau.
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 8.30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Leo Scheltinga a Paul Newell
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.