Yn ôl traed y mwynwyr

Dydd Sadwrn 17 Mai, 2025

Yn ôl traed y mwynwyr

Byddwn yn darganfod rhai o olion cuddiedig yr ardal, sydd bellach yn ardal Safle Treftadaeth Byd UNESCO.

Byddwn yn cerdded yn ardal Blaenau Ffestiniog a Chwm Penmachno, gan gynnwys rhannau o’r Llwybr Llechi Cenedlaethol.

Ar y daith byddwn yn pasio nifer o hen bentrefi a llynnoedd hardd cyn cerdded i ben un o fynyddoedd yr ardal. O fama ceir golygfeydd o’r tirwedd hanesyddol hwn.

Mae’n debyg byddwn yn gweld amrywiaeth o fywyd gwyllt, felly cofiwch eich binocwlars a chamera!

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  9.5 milltir / 15 km

Gradd:  Llafurus.  Esgyniad o ryw 2,000 tr.  Gwisgwch esgidiau da.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Marianne Siddorn a Maria Denney


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig