Ar lan yr afon

Dydd Sul 18 Mai, 2025

Ar lan yr afon

Mae’r daith gerdded olygfaol – trwy dolydd ac ar hyd llwybrau coed – yn dilyn darn o Lwybr Llechi Eryri o Fetws y coed i Gapel Curig. I gychwyn ni fyddwn ni byth ymhell o Afon Llugwy a’i rhaeadrau, yn cynnwys y Rhaeadr Ewynnol. Wrth agosau at Gapel Curig mi gawn ni olygfeydd gwych dros y mynyddoedd.

Bydd y daith yn gorffen yn Plas y Brenin, lle bydd ‘na gyfle am banad neu beint cyn i’r minibws fynd â ni’n ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  6½ milltir / 11 km

Gradd:  Hawdd / cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:   Mat Hancox a Matthew Driver


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig