Pen yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach

Dydd Sadwrn 17 Mai, 2025

Pen yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach

Taith gerdded ar y mynyddoedd o Ddyffryn Ogwen yn ôl i Drefriw yw hon.

Bydd hon yn daith lafurus, ond os bydd y tywydd yn dda, cawn ni olygfeydd gwydd.

Bydd ein minibws yn mynd â ni i Ddyffryn Ogwen, lle byddyn yn cerdded i Ffynnon Llugwy, wedyn dros Fwlch Eryl Farchog i gopa Pen yr Helgi Du (833 m  / 2,733 tr). O fama mae’n filltir – i lawr wedyn i fyny – i gopa Pen Llithrig y Wrach (799 m / 2,621 tr). Bydwn yn dilyn ei grib i lawr i argae Llyn Cowlyd, wedyn dychwelyd i Drefriw dros grib Cefn Cyfarwydd (492 m / 1,614 tr).

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  10 milltir / 16 km

Gradd:  Taith fynydd galed, efo bron i 3,000 tr. o esgyniad i gyd. Bydd ‘na elfen o sgramblo mewn cwpl o lefydd, a llefydd hefyd lle fydd hi’n agored.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Addasrwydd:  Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini am y daith hon.

Cofiwch – Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Amser ymadael:  08:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Keith Hulse, Paul Newell a Mike Bolsover


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig