Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023
Tuag Adref
Mae ‘na gymaint o ffyrdd hyfryd yn ôl o Fetws y coed fel ein bod ni’n hapus i ail-wneud y daith gerdded hon.
Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus (y bws 19, tâl: £3.10 oni bai bod gynnoch chi bas), i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy.
Byddwn yn cerdded i fyny trwy geunant Aberllyn, cyn cyrraedd Llyn Parc a cherdded ar hyd ei lannau. Byddwn wedyn yn disgyn i Hafna, cyn pasio rhai o’r llynnoedd hyfryta yn y goedwig. Mae hon yn daith odidog – ar gyflymdra hamddenol – a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri.
Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o draciau coedwig eang a llwybrau eraill.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7.6 milltir / 12 km
Gradd: Cymedrol, efo cwpl o darnau serth
Amser ymadael: 10:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal y bws 10:42 i Fetws y coed
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Colin Devine a Dave Tetlow
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.