Pam na ddewch chi’n ôl i Drefriw yn y dyfodol er mwyn mwynhau ein trywyddau hunan-dywys a fydd yn eich arwain allan o’r pentref i’r bryniau a’r llynnoedd? Mae ‘na 8 trywydd i gyd, sydd wedi’u nodi, ac sydd yn addas i bob oedran a gallu.
Mae’r Trywyddau yn cychwyn a gorffen yn y pentref, ac maen nhw’n amrywio o ran hyd o 1 filltir i 6 milltir.
Mae’r Trywyddau ar gael ar gardiau sydd â mapiau a chyfeiriadau llawn. Mae ‘na fersiwn Saesneg hefyd.
Bydd pecynnau ar gael yn ystod yr Ŵyl Gerdded; fel arall maen nhw ar gael yn y pentref o’r Felin Wlân a Swyddfa’r Post.
Mae modd lawrlwytho’r cardiau o dudalen Trywyddau Trefriw ar wefan Trefriw Awyr Agored.
NEWYDD!
Lansiwyd Trywydd Chwedlau Trefriw, sydd yn drywydd 9 milltir, yn ystod Gŵyl Gerdded Trefriw 2017 fel rhan o Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru (gweler yma). Bydd y trywydd hwn ar gael yn ystod yr Ŵyl Gerdded fel rhan o becyn Trywyddau Trefriw.
Trywydd Chwedlau Trefriw
Gellir lawrlwytho Trywydd y Chwedlau fel .pdf yma. (Mae hon yn fersiwn Saesneg, ond bydd y Trywydd ar gael hefyd yn Gymraeg.)