Gŵyl Gerdded Trefriw 2026: Mai 15fed i 17eg
Mae Gŵyl Gerdded Trefriw yn ôl gyda theithiau cerdded gwych a phrofiadau newydd cyffrous i’w mwynhau. Llwybrau copaon uchel y Glyderau a’r Carneddau, a ‘Hike and a Dip’ mewn llyn coetir oer yw rhai o’r danteithion sydd i ddod. Digon o lwybrau hardd gydag adar a chlychau’r gog ar hyd ein teithiau tywys ym mynyddoedd a choedwigoedd Eryri.
Gwybodaeth bellach:
Trefnir Gŵyl Gerdded Trefriw yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr o grŵp Awyr Agored Trefriw, a hon yw gŵyl gerdded fwyaf poblogaidd Eryri.
Wedi’i lleoli yng nghalon pentref hanesyddol Trefriw ar ymyl Eryri, mae gan yr ŵyl lwybrau at ddant pawb, o ddringo mynyddoedd i deithiau haws ger llynnoedd ac afonydd.
Mae gan bob diwrnod rywbeth gwahanol i’w gynnig, o sgramblo yn y Carneddau i grwydro’r coedwigoedd a’r llynnoedd o amgylch Trefriw. Gwrando ar gân yr adar yn gynnar yn y bore, neu ddim ond mwynhau taith dda yn amgylchoedd godidog Eryri.
Mae ein teithiau cerdded yn dechrau ac yn gorffen yn Nhrefriw, yn ein Neuadd Bentref hyfryd. Arweinir pob un gan arweinwyr profiadol ac fe’u heryngir gan gynorthwywyr Cymorth Cyntaf cymwys.
Dylid anfon cwestiynau pellach at Cate Bolsover: cebolsover@gmail.com
Gwefan: www.trefriwwalkingfestival.co.uk
Facebook: www.facebook.com/trefriwwalkersarewelcome
Twitter: https://twitter.com/trefriwwalkers
Instagram: www.instagram.com/trefriw_walking_festival