Mae’r signal ffôn symudol yn Nyffryn Conwy yn eitha da, fel yn Nhrefriw ei hun (ac yn aml mae 4G ar gael).
Fodd bynnag, pan fyddwch chi’n cerdded ar y bryniau y tu ôl i’r pentref, mae’r signal yn gwaethygu – yn aml i ddim byd – er bod hi’n bosib weithiau cael hyd i signal mewn mannau uchel.
Yn ogystal â chario map traddodiadol, rydan ni’n hoff o ddefnyddio mapiau O.S. 1:25,000 ar ein ffonau symudol, a fydd yn dangos yr union leoliad ar unrhyw amser. Mae gan yr O.S. ap am hyn, sef eu O.S. Mapping app, ac mae ‘na eraill fel Ap Memory Map. Mae’r apiau hyn yn defnyddio GPS, ddim signal ffôn symudol, felly maen nhw’n gweithio ym mhobman (ond dylid lawrlwytho’r map sylfaenol gyntaf).
Hefyd argymhellir defnydd apiau sydd yn dilyn eich teithiau cerdded, fel Strava a Map My Walk. Yn yr un modd, mae’r rhain yn defnyddio GPS, felly dydyn nhw ddim yn dibynnu ar signal ffôn symudol i weithio.