Dim lle ar y daith gerdded roeddech chi ei hisio?
Does ‘na ddim rhestr aros fel y cyfryw, ond mae ‘na gansladau ar bron pob taith gerdded ryw ben – yn enwedig yn y dyddiau olaf cyn yr Ŵyl, felly peidiwch â phoeni, dewch yn ôl bob hyn a hyn i weld oes ‘na le ar gael i chi.
Oherwydd cansladau munud olaf, fel arfer mae’r rhan fwya o deithiau cerdded yn gadael efo ambell le gwag!
Os oes ‘na le, a dach chi wedi bwcio ar daith arall y diwrnod hwnnw, y cyfan sy isio ydy ewch i’ch cyfrif Eventbrite, canslwch eich tocyn, wedyn bwciwch le ar y daith newydd.