Dydd Sul 21 Mai, 2023
Rhapsoldi mewn Glas
Bydd ein minibws yn mynd â ni i Lyn Crafnant hyfrd, lle byddyn yn cerdded y 3 milltir o gwmpas y llyn. Wedyn byddwn yn cerdded rownd Mynydd Deulyn i Lyn Geirionydd cyn dychwelyd i Drefriw.
Yn ogystal â’r llyn glas ac awyr las (gobeithio!), byddwn yn pasio llethr hyfryd o glychau’r gog tu allan i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Hawdd/cymedrol, hamddenol
Amser ymadael: 10:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Cate Bolsover a Jan Blaskiewicz
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.