Category Archives: 2024 Archive

Crwydro’r ddau gob

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Crwydro’r Ddau Gob

Mae’r rhan fwyaf o’n teithiau cerdded ar ochr Trefriw i Afon Conwy, ond dyma gyfle i gerdded hefyd ar yr ochr arall!

Mae gan Ddyffryn Conwy amddiffyniadau rhag yr afon o bobtu iddo – o’r enw ‘cobiau’ – sydd yn cynnig cerdded hyfryd – a gwastad! – wrth ochr yr afon.

Taith o dri darn yw hon, efo’r darn cyntaf a’r darn olaf ar y cobiau.

Byddwn yn dilyn y cob o Drefriw i Lanrwst am 2 filltir, wedyn dilyn y lonydd uwchben Llanrwst cyn disgyn i Dan Lan, lle mae’r cob arall yn cychwyn. Wedi dilyn y cob hwn am 2 filltir i Faenan, bydd ein minibws yn mynd â ni’n ôl i Drefriw.

Bydd ‘na ddigon o gerdded hamddenol ar lan yr afon, ac fel arfer bydd ‘na lawer o fywyd gwyllt i’w weld yn agos i’r afon hefyd.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Hawdd a hamddenol i’r rhan fwyaf (ond mae ‘na esgyniad ar y lôn yn y canol o 10m hyd at 100m)

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Karen Martindale a Jan Blaskiewicz

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cyflwyniad i redeg y llwybrau!

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Cyflwyniad i redeg y llwybrau!

Dyma gyfle i gymysgu cerdded efo rhywfaint o redeg.

Byddwn yn cychwyn yn y pentref, wedyn ar ôl milltir cyrraedd llwybr serth i ymylon coedwig Gwydir. Gobeithio bydd ‘na amser i ymweld â hen eglwys Llanrhychwyn ar ein ffordd i’r pwynt uchaf lle cawn ni olygfeydd gwych. Wedyn byddwn yn disgyn i Lyn Geirionydd ac yn ôl i Drefriw efo golygfeydd i lawr Dyffryn Crafnant.

Mae ‘na ddarnau sy tipyn serth a garw, ond byddwn yn symud am bês fydd yn siwtio’r grŵp, a dan ni’n disgwyl cerdded y darnau serth, gan ailgrwpio’n amal.

Hyd:  Hanner diwrnod  (2½ awr, 10:30 – 13:00)

Pellter:  Tua 7 milltir / 11 km

Addasrwydd:  Rhiad i chi fod yn ddigon heini i daclo’r cerdded/rhedeg a ddisgrifir uchod.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Beth i’w wisgo:  Rhaid gwisgo ‘trail shoes’ (fydd sgidiau cerdded ddim yn addas). Mae’n debyg byddwn yn dod ar draws llefydd gwlyb neu gorslyd. Hefyd basai’n syniad da cario dŵr yfed.

Amser ymadael:  10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Fliss Aries a Nick Denney

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Yn ôl i natur

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Yn ôl i natur

Taith gerdded gron yn ardal Nant Bwlch yr Haearn yng Nghoedwig Gwydir yw hon.

Byddwn yn teithio mewn ceir i gychwyn ein taith gerdded, sef hen fwynglawdd Cyffty ger Nant Bwlch-yr-Haiarn yng Nghoedwir Gwydir. (Mae Cyffty yn 4 milltir o Drefriw – gweler y daith yma.)

Mae hon yn daith gerdded hamddenol fydd yn cychwyn wrth un o’r hen fwyngloddiau yn ardal Nant Bwlch-yr-Haiarn. Bydd ein llwybr yn dilyn nifer o lynoedd a grëwyd  ar gyfer yr hen ddiwydiant hwn, a hefyd archwilio blodau gwyllt, natur, hanes a chwedlau’r ardal unigryw hon. Byddwn yn cerdded ar lwybrau da i’r rhan fwyaf, efo rhannau byrion ar dir mwy garw a  mwy serth, wedyn cyrraedd golygfan naturiol mewn pryd i gael cinio yno. O fan’na byddwn yn parhau a dychwelyd i’n man cychwyn, wedyn dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Dyma gyfle i archwilio natur yn y bryniau efo cwpl o arbenigwyr yn y maes.

Hyd:  Hanner diwrnod.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 5 milltir / 8 km

Gradd:  Cymedrol/hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Pete Kay a Bernard Owen

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ‘Pot Luck’ (Gwener)

Taith Gerdded ‘Pot Luck’

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio archebu, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl. Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded swyddogol (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ewch ar un o Trywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau efo mapiau ar gael ar gardiau
  3. Dilynwch Trywydd y Chwedlau, sydd yn daith hunan-dywys ar gerdyn, a lansiwyd yn 2017

Hyd: Addas i’r grŵp. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: o 9.00 y.b. ymlaen yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Er nad oes rhaid archebu, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau sydd yn dal yn berthnasol i bob taith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ‘Pot Luck’ (Sadwrn)

Taith Gerdded ‘Pot Luck’ (Sul)

<!– Cofiwch y Ffair Gacennau am 4 y.p.! –>