Dydd Sul 19 Mai, 2024
Crwydro’r Ddau Gob
Mae’r rhan fwyaf o’n teithiau cerdded ar ochr Trefriw i Afon Conwy, ond dyma gyfle i gerdded hefyd ar yr ochr arall!
Mae gan Ddyffryn Conwy amddiffyniadau rhag yr afon o bobtu iddo – o’r enw ‘cobiau’ – sydd yn cynnig cerdded hyfryd – a gwastad! – wrth ochr yr afon.
Taith o dri darn yw hon, efo’r darn cyntaf a’r darn olaf ar y cobiau.
Byddwn yn dilyn y cob o Drefriw i Lanrwst am 2 filltir, wedyn dilyn y lonydd uwchben Llanrwst cyn disgyn i Dan Lan, lle mae’r cob arall yn cychwyn. Wedi dilyn y cob hwn am 2 filltir i Faenan, bydd ein minibws yn mynd â ni’n ôl i Drefriw.
Bydd ‘na ddigon o gerdded hamddenol ar lan yr afon, ac fel arfer bydd ‘na lawer o fywyd gwyllt i’w weld yn agos i’r afon hefyd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 milltir / 11 km
Gradd: Hawdd a hamddenol i’r rhan fwyaf (ond mae ‘na esgyniad ar y lôn yn y canol o 10m hyd at 100m)
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 10:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Karen Martindale a Jan Blaskiewicz
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.