Yn ôl i natur

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Yn ôl i natur

Taith gerdded gron yn ardal Nant Bwlch yr Haearn yng Nghoedwig Gwydir yw hon.

Byddwn yn teithio mewn ceir i gychwyn ein taith gerdded, sef hen fwynglawdd Cyffty ger Nant Bwlch-yr-Haiarn yng Nghoedwir Gwydir. (Mae Cyffty yn 4 milltir o Drefriw – gweler y daith yma.)

Mae hon yn daith gerdded hamddenol fydd yn cychwyn wrth un o’r hen fwyngloddiau yn ardal Nant Bwlch-yr-Haiarn. Bydd ein llwybr yn dilyn nifer o lynoedd a grëwyd  ar gyfer yr hen ddiwydiant hwn, a hefyd archwilio blodau gwyllt, natur, hanes a chwedlau’r ardal unigryw hon. Byddwn yn cerdded ar lwybrau da i’r rhan fwyaf, efo rhannau byrion ar dir mwy garw a  mwy serth, wedyn cyrraedd golygfan naturiol mewn pryd i gael cinio yno. O fan’na byddwn yn parhau a dychwelyd i’n man cychwyn, wedyn dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Dyma gyfle i archwilio natur yn y bryniau efo cwpl o arbenigwyr yn y maes.

Hyd:  Hanner diwrnod.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 5 milltir / 8 km

Gradd:  Cymedrol/hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Pete Kay a Bernard Owen


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig