Ceffylau Gwyllt

Dydd Sul 21 Mai, 2023

Ceffylau Gwyllt

O Drefriw byddwn yn dal y bws 19 i Gonwy (tâl: £3.60, oni bai bod gynnoch chi bas), ac o fan’na byddwn ni’n cerdded ar hyd Mynydd y Dref tuag at Sychnant, sydd yn cynnig golygfeydd arfordirol gwych. Byddwn wedyn yn y mewndir, yn rhannol ar Lwybr Cambria, tuag at Ben-y-Gaer, sydd yn hen gaer o Oes yr Haearn uwchben Dyffryn Conwy, gan basio drwy ardal sy’n llawn meini hir hynafol a siambrau claddu.  Yn aml iawn mae merlod mynydd y Carneddau i’w gweld yn yr ardal hon.

Bydd y daith yn gorffen uwchben Tal y bont, o le bydd y minibws yn ein dychwelyd i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymhedrol.  (Mae ‘na gwpl o ddarnau serth, h.y. wrth esgyn Mynydd y Dref, a ger Sychnant). Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Cofiwch y medrith hi fod yn oer, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Amser ymadael:  08:40 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Ken Brassil a Marianne Siddorn


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig