Dydd Gwener 16 Mai, 2025
Tŷ Mawr, Wybrnant
Byddwn yn cerdded yn uchel uwchben Dyffryn Lledr lle mae golygfeydd gwych. Ar y ffordd byddwn yn dilyn hen ffordd y porthmyn a llwybrau trwy ffermdir a choedydd. Byddwn yn dychwelyd i Ddolwyddelan wrth ochr Afon Lledr a’i cheunant trawiadol.
Ffocws ein taith gerdded fydd Tŷ Mawr, hen ffermdy o’r 16eg canrif lle gafodd Esgob William Morgan ei eni. Ei gyfieithiad o’r Beibl oedd yn rhannol gyfrifol am sicrhau goroesiad yr iaith Gymraeg.
Dewch â sgidiau cerdded da; mae ‘na ddarnau anwastad, mwdlyd a llithrig dan draed.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 milltir / 11 km
Gradd: Cymedrol, efo ambell ddarn serth
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Byddwn yn teithio allan ac yn ôl ar ein minibws.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Marianne Siddorn & Kate Reeves
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
