Taith Gerdded hamddenol

Dydd Gwener 16 Mai, 2025

Cerdded i gadw’n iach – cysylltu â natur

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded fyfyriol a meddylgar i gysylltu â’r hunan a byd natur.

Bwriad y daith gerdded hon yw gadael efo profiadau a syniadau newydd ynglŷn â sut i gysylltu â natur a chael mantais o nature yn eu bywydau pob dydd.

Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).

Bydd ein taith cerdded hamddenol yn cymryd tuag awr o Gapel Gwydir ar hyd llwybrau ar ymylon Coedwig Gwydir. Bydd seibiannau cyn, yn ystod ac ar ôl y daith i ddysgu am natur ac ymarfer y cysylltiad efo natur. Hefyd byddwn yn ymweld â’r capel heddychlon sydd â chelfwaith trawiadol.

Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  1.5 milltir / 2.5 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol (ond efo rhywfaint o esgyniad a disgyniad)

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  1 y.p. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Liz Burnside a Lara Martin


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig