Dydd Gwener 16 Mai, 2025
Nofio Gwyllt
Bydd dau grŵp yn cerdded i Lyn Parc yng Nghoedwig Gwydir lle bydd cyfle i nofio yn y llyn..
Efo ni bydd 2 arweinydd ar y cyd â hyfforddwyr Ffit Conwy.
Bydd 2 grŵp, efo hyd at 10 o bobl ymhob grŵp.
Bydd y grŵp cyntaf yn cerdded i Fwynglawdd Hafna. Yma byddwn yn cyfarfod staff Ffit Conwy a’r ail grŵp, a byddwn yn cael cinio yma. Ar ôl cinio byddwn yn cerdded at Lyn Parc. Wedi nofio byddwn yn cerdded yn ôl i Hafna i ddal y minibws yn ôl i Drefriw.
Bydd yr ail grŵp yn gwenud hyn i gyd y ffordd arall, sef teithio o Drefriw i Hafna yn y minibws, cyfarfod staff Ffit Conwy, wedyn cerdded at Lyn Parc. Ar ôl y nofio gwyllt, byddan yn cerdded yn ôl i Hafna am ginio, cyn cerdded yn ôl i Drefriw.
Eich dewis chi fydd pa mor bell a pha mor gyflym dach chi isio nofio. Sylwch fod y daith hon i nofwyr sydd â phrofiad o nofio gwyllt/agored. Dewch â dillad nofio, tyweli a siwt gwlyb. Hefyd dewch â diod boeth i’w hyfed ar ôl nofio.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 5 milltir / 8 km
Gradd: Hawdd / Cymedrol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mat Hancox a Matthew Driver
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
