Cwm Idwal

Dydd Gwener 16 Mai, 2025

Gwarchodfa Nature Cwm Idwal

Ymunwch â ni am daith gerdded gron sy ddim mor heriol â hynny, ond fydd yn cynnig golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd, yn cynnwys Tryfan, y Glyderau a’r Twll Du (Devil’s Kitchen).

Yn ogystal â bod yn lle llawn chwedlau, mae’n lle llawn hanes naturiol a daeareg diddorol.

Mae’r goleuni a’r tywydd yn yr ardal hon yn newid yn gyson.. Yn ôl un chwedl, cafodd y llyn ei enwi ar ôl Idwal, mab i Owain Gwynedd, gafodd ei foddi yma, a byth ers hynny dydy adar ddim yn hedfan dros wyneb y llyn.  Gawn ni weld, ‘de!

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  2.5 milltir / 4 km

Gradd:  Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  11:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Minibws allan ac yn ôl.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Geraldine Thomas a Terry Smith


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig