Dydd Gwener 16 Mai, 2025
Crimpiau
Mae Crimpiau yn olygfan anhygoel rhwng Llyn Crafnant a Chapel Curig. Er mai ond 475m /1,558 tr. o uchder ydy o, un o’r golygfannau gorau yn Eryri ywy o.
Byddwn yn dal y minibws i Gapel Curig, wedyn cerdded yn ôl i Drefriw. I gychwyn byddwn yn cerdded uwchben Capel Curig lle mae ‘na olygfeydd gwych o Bedol Yr Wyddfa, a Glyderau a’r Carneddau. Wedyn ar ôl 2 filltir o gerdded byddwn yn gwneud gwyriad bach (hanner milltir, a serth) i fyny Crimpiau.
Byddwn wedyn yn disgyn i Ddyffryn Crafnant i gerdded wrth ochr y llyn cyn dychwelyn i Drefriw ar hyd y dyffryn. Mae’n daith ardderchog efo digon i’w weld ar hyd y daith.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 milltir / 11 km
Gradd: Cymedrol, hamddenol (efo esgyniad byr i Crimpiau ei hun0
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 9.00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Byddwn yn dal y bws mini i Gapel Curig.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tony Ellis a Nigel Thomas.
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
