Category Archives:

Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Dydd Sul 17eg Mai, 2020

Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Crwydro hanes hynafol ar ffin ogleddol y Parc Cenedlaethol.
Byddwn yn dal y bws mini i Fwlch y Ddeufaen, uwchben Rowen,  yna cerdded ar lwybr taclus, ffriddoedd a 1/4 tir corsiog (dim nofio!).
Polion cerdded a sgidiau addas yn hanfodol.

Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Cofiwch – weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Cyfarfod:  9:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinwyr:    Ken Brassil a Bernard Owen

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Crimpiau

Dydd Sul 17eg Mai, 2019

Crimpiau

Mae Crimpiau (sy’n golygu hard sharp edge; ridge, spur; ledge) wedi’i leoli rhwng Capel Curig a Llyn Crafnant, ac mae’n llecyn manteisiol er ei uwchder o 475m / 1558′ yn unig. Mae ffotograffydd Nick Livesey yn deud yn ei lyfr ‘Photographing the Snowdonia Mountains’, “Being little more than a minor incident on a long knobbly ridge, lowly Crimpiau harbours a secret that few would suspect from below”.  Mae eraill wedi deud pethau tebyg.

Byddwn ni’n mynd yn y bws mini o Drefriw i Gapel Curig, wedyn cerdded yn ôl, gan wneud gwyriad bach i esgyn Crimpiau ei hun.  Yn ogystal â Crimpiau, mae’n daith ardderchog efo golygfeydd hyfryd o’r dechrau i’r diwedd.
Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 9 milltir / 14 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Cyfarfod:  9:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinwyr:    Keith Hulse a Linda Roberts

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cerdded yn ardal y llynnoedd

Dydd Sul 17eg Mai, 2020

Cerdded yn ardal y llynnoedd

Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd.  O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir.  Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.

Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, felly dewch â chamera. Byddwn yn stopio i gael cinio, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal.  Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6.5 milltir / 10.5 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Cyfarfod:  9:45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinwyr:    Colin Devine a Mat Hancox

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Cynffon y Gaseg Las

Dydd Sul 17eg Mai, 2020

Cynffon y Gaseg Las

Ymunwch â ni am daith leol o’r pentref. Byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las, sydd yn rhaeadr odidog ar ochrau Coedwig Gwydir. Mae’r rhaeadr yn cyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, ac Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw i’r rhaeadr. Byddwn wedyn yn mynd heibio i Gwydir cyn dychwelyd i Drefriw ar lan yr afon.  (Gyda llaw, ‘Rhaeadr y Parc Mawr’ ydy enw Cymraeg swyddogol y rhaeadr, achos mae’n llifo o fwynglawdd Parc!)

Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 9.5 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Cyfarfod:  10:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinwyr:    Clive Noble a Jo Noble

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Doethineb Blodau Gwyllt

Dydd Sul 17eg Mai, 2020

Doethineb Blodau Gwyllt

Dros amser mae planhigion wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o frwydro yn erbyn peryg a heintiau. Dysgodd ein cyndadau sut i ddefnyddio hyn ymhell cyn y darganfuwyd antibiotigion.  Ar y daith hon cewch wybod sut roedd y planhigion sydd yn tyfu yn Nyffryn Crafnant yn hollbwysig i genedlaethau o bentrefwyr yn eu bywydau pob dydd. Dyma hefyd gyfle i ddysgu mwy am hanes y pentref.

Mae hon yn daith hamddenol trwy’r coedydd a dolydd sydd yn enwog am glychau’r gog a blodau gwanwynol eraill.  Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar lwybrau da neu drwy gaeau. (Mae ‘na un gamfa.)

Hyd:  Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr yn y bore.   Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 4 milltir / 6.5 km

Gradd:  Hawdd, ac yn hamddenol

Cyfarfod:  11:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
(Bydd hyn yn gyfleus i bobl sydd am ddod i Drefriw ar y bws.)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinwyr:    Joan Prime a Karen Black