Dydd Sadwrn 16 Mai, 2026 09.30 a.m.
Cefnwlad Dolgarrog – dŵr, pŵer, argaeau, trychinebau Tocynnau: £12
Ar y daith hon, byddwn yn croesi llwyfandir uchel Dolgarrog, ardal sy’n hynod o olygfaol ac o bwysigrwydd ecolegol mawr; mae’n dirwedd sy’n gyfoethog o gogau, coed ysbrydol a fforestydd law Celtaidd. Ar ein ffordd, byddwn yn archwilio’r digwyddiadau tywyll ynghylch trychineb torriad yr argae ym 1925, ond hefyd hanes eithriadol gyfoethog yr ardal o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw.
Hyd: Trwy;’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 9 filltir / 15 km
Gradd: Llafurus.
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 09:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Bws mini allan ac yn ôl
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Richard Brundstrom a Matthew Driver a Vicky Buxton
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £12 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
