Tryfan

Dydd Gwener 16 Mai, 2025

Tryfan

Mae Crib Ogleddol Tryfan yn sgrambl gradd 1 eiconig, ac mae’n boblogaidd iawn.

Mae’n un o’r copeuon dros 3,000 troedfedd, ac mae’n sefyll yn browd yn Nyffryn Ogwen.

Byddwn yn sgramblo o’r ffordd – gan gerdded yn ôl traed George Mallory a Sir Edmond Hilary i’r copa, lle mae Siôn a Siân, y ddau faen hir.

Byddwn yn cychwyn yn gynnar er mwyn osgoi’r torfeydd, gan ddychwelyd heibio’r Copa Deheuol a Llyn Bochlwyd.

Bydd darnau serth, creigiog ac agored. Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini am y daith hon.

Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter: 3 milltir / 4.5km   Esgyniad 610m

Gradd:  Anodd, llafurus, efo darn hir o sgramblo gradd 1. Agored mewn mannau.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  8.30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)    Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Leo Scheltinga a Paul Newell


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig