Stumio yn Stwlan

Dydd Sul 18 Mai, 2025

Stumio yn Stwlan

Mae’r Moelwynion yn llawer distawach a mwy anghysbell na llawer o lefydd yn Eryri, ond mae’n ardal odidog. Byddwn yn cerdded rownd Moel yr Hydd a dilyn llwybr hardd y tu ôl i Lyn Stwlan. Byddwn hefyd yn crwydro trwy hen chwareli llechi, mynd heibio i Lyn Cwmorthin a Llyn Stwlan, ac yn y pellter gwelwn ni bwerdy Trawsfynydd – y Brydferth a’r Bwystfil, efallai.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol / llafurus

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  8:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw i’r man cychwyn.
Cofiwch gofrestru yn neuadd y pentre gyntaf.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Charlotte Evans a Simona Bacanu


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig