Dydd Gwener 16 Mai, 2025
Cerdded a braslunio
Ymunwch â ni am ddiwrnod o fraslunio a pheintio yng ngwarchodfa RSPB yng Nghonwy. Mae croeso i bawb – boed yn brofiadol neu ddi-brofiad!
Dim cystadleuaeth mo hyn, ond cyfle i gysylltu efo nature. Byddwn yn cerdded yn hamddenol am tua awr, gan stopio mewn llefydd i fwynhau a braslunio’r golygfeydd.
Y ni fydd yn dod â’r holl adnoddau.
Byddwn yn rhannu ceir o Drefriw i’r warchodfa. Os nad aelod o’r RSPB dach chi, y ffi mynedfa fydd £6.
Bydd 2 sgwter symudedd ar gael am ddim – gadewch i ni wybod pan yn bwcio eich lle fel y byddwn ni’n medru eu cadw.
Mae ‘na caffi sylfaenol ar y safle ond croeso i chi ddod â fflasg a phecyn bwyd. Hefyd, bydd binociwlars a chadair campio yn ddefnyddiol.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 2 filltir / 3.5 km
Amser cerdded: Tua 1 awr
Gradd: Hawdd, hamddenol
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Cate Bolsover & Maria Denney
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
