Dydd Sul 22ain Mai 2016
Taidd Gerdedd “Pot Luck”
Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio bwcio, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl. Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!
Bydd 3 dewis –
- Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
- Ymunwch â’n taith ‘pot luck’, a fydd yn daith gerdded diwrnod llawn gan rywun sydd â gwybodaeth leol.
- Ewch ar un o Drywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau – efo map – ar gael ar bapur.
Hyd: Addas i’r grŵp
Pellter: Addas i’r grŵp
Cyafarfod: 09.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Cyfaddasrwydd: i’w osod gan yr arweinydd a’r grŵp ar y dydd
Does dim rhaid bwcio tocyn, ond mae’r amodau bwcio yn dal yn berthnasol i’r daith gerdded hon.
Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain. Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.