Taith y Pererin

Dydd Gwener 15 Mai, 2026  10.15 y.b.

Taith y Pererin           Tocynnau: £12

Bydd y daith hon yn dilyn rhan leol o Daith Pererin Gogledd Cymru ar hyd llwybrau hynafol a lonydd distaw. Gan gychwyn yn Nhal-y-Cafn, bydd ein llwybr yn anelu tuag at Rowen, efo saib yng Nghapel Seion Chapel. Ar ôl hynny mi ddaw y llwybr yn fwy heriol, i fyny’r ‘Coffin Path’ at hen eglwys Sant Celynnin a’i hen ffynnon sydd yn cynnig golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy.

Mae’n daith sydd yn llawn hanes, tirwedd ac awyrgylch, ac fe’i harweinir gan y Parch. Eryl Parry o Drefriw a fuodd yn y rhaglen BBC Pilgrimage yn Llangelynnin.

Ar y daith hon bydd darnau serth ac anwastad, a fydd efallai’n wlyb a llithrig dan draed. Gwysgwch ddillad priodol, efo esgidiau addas.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter: 5 milltir / 8 km

Gradd: Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.

Amser ymadael:  10.15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)     Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.

Cludiant: Byddwn yn teithio yn y bws mini o Drefriw ac yn ôl.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Eryl Parry a Steve Jewett

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Pris: £12    Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?

Cliciwch isod am docynnau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.

Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig